en-GBcy-GB
  |  Login

 

Pêl-droed Mini

 

Mae Pêl-droed Mini yn fersiwn o’r gêm 11 bob ochr sydd wedi’i haddasu er mwyn rhoi cyfle i blant chwarae pêl-droed go iawn, i dîm go iawn, gan sicrhau eu bod yn mwynhau wrth gael eu cyflwyno i’r gêm mewn ffordd hwylus.

Mae pêl-droed mini yn cael ei gydnabod gan CBDC fel yr unig ffurf ar bêl-droed yng Nghymru ar gyfer plant o dan 11 oed. Mae CBDC o’r farn y dylai plant ddysgu sut i gystadlu’n deg, gyda sgil ac o fewn rheolau’r gêm.

 Mae prif werthoedd Pêl-droed Mini fel a ganlyn:

· Mae bechgyn a merched o bob gallu yn gallu cymryd rhan

· Mae’r gêm yn hawdd i’w threfnu ac mae’n bosibl ei chwarae unrhyw le ar unrhyw adeg

· Gall chwaraewyr gymryd rhan yn y gêm a chael hwyl heb unrhyw bwysau gan rieni, hyfforddwyr neu reolwyr

· Mae’n annog gwaith tîm, ac yn datblygu sgiliau plant

· Mae fframwaith penodol o safonau ac ymddygiad ar y cae ac oddi arno

Newidiadau yn y ffordd y mae Pêl-droed Mini yn cael ei reoleiddio

Cafodd fformat Pêl-droed Mini ei newid o ddechrau tymor 2009/2010. O 2010/2011 ymlaen, mae fformat newydd wedi bod ar waith ar gyfer grŵp oedran Dan 9. Mae hyn yn dilyn y newidiadau a wnaed ar lefel Dan 7 a Dan 8. Caiff fformat y gêm ei egluro mewn nifer o fideos defnyddiol. Cliciwch yma i'w gweld. Neu gallwch lawrlwytho copi o’r fformat yma.

ThBydd Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn cefnogi pob cynghrair sy’n cynnal grwpiau ar lefel Dan 7, Dan 8 a Dan 9 i gyflwyno’r newidiadau hyn. I lawrlwytho cyflwyniad sy’n egluro’r newidiadau, cliciwch yma.

At hynny, bydd pob hyfforddwr yn derbyn gwahoddiad i fynychu gweithdy hyfforddi ymarferol sy’n para 3 awr. Diben y gweithdy hwn yw rhoi profiad ymarferol i hyfforddwyr o sut i drefnu gemau 4v4, 5v5 a 6v6. Bydd y gweithdai hyn ar gael ledled Cymru drwy glicio yma. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a'ch Swyddog Datblygu Pêl-droed lleol.

Nid yw fformat Pêl-droed Mini yn newid ar gyfer timau Dan 10 a Dan 11 sydd eisoes yn bodoli. Nid yw’r newidiadau yn effeithio ar y grwpiau oedran hyn yn ystod tymor 2010/2011. Mae gwybodaeth am fformat y ddau grŵp hyn ar gael i’w lawrlwytho yma.

Isod, mae fideos yn cyflwyno cysyniadau Pêl-droed Mini yn ogystal â manteision pêl-droed 4v4 a 5v5 ar ddatblygiad ein chwaraewyr ifanc.

Mini Football - An Introduction

Mini Football - The benefits of 4v4 and 5v5 and the 'Behind the Line, Behind the Team' Campaign

Role of the Game Leader

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx