en-GBcy-GB

 

Pêl-droed Menywod a Merched

Mae poblogrwydd pêl-droed merched yn ei anterth ledled y byd, ac nid yw Cymru’n eithriad. Mae 4,000 o chwaraewyr benywaidd wedi cofrestru i chwarae o fewn strwythurau’r wyth gynghrair iau a’r pum cynghrair uwch, sy’n golygu bod mwy o ferched yn cymryd rhan mewn pêl-droed na’r un gamp arall yng Nghymru.

Caiff pêl-droed merched ei annog a’i hyrwyddo gan FIFA ac UEFA, a gellir priodoli llwyddiant y rhaglen yng Nghymru i’r gefnogaeth barhaus a gynigir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Cymdeithasau Ardal, Cynghreiriau Iau a phartneriaid allweddol eraill.

I ddysgu mwy am gynlluniau Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i gyfrannu at y broses o ddatblygu Pêl-droed Merched yng Nghymru, ewch ati i lawrlwytho copi o’n Strategaeth Genedlaethol sydd ar gael ar waelod y dudalen hon (Saesneg yn unig).

 

Gweithgor Merched Cenedlaethol

Sefydlwyd y Gweithgor Cenedlaethol ar gyfer Pêl-droed Merched y llynedd er mwyn cyfrannu’n strategol at ddatblygu pêl-droed benywaidd yng Nghymru. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o CBDC, Cymdeithasau Ardal, Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru a CBD Ysgolion Cymru. Caiff y Gweithgor ei gadeirio gan Brif Is Lywydd CBDC ac aelod o Bwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA, Mr. Philip Pritchard.

Mae’r Grŵp yn arwain ar yr ymgyrch i sefydlu’r Gynghrair Genedlaethol arfaethedig ar gyfer Menywod, a fydd yn cynnig llwybr i glybiau uchelgeisiol yng Nghymru, yn gwella safonau yn y cynghreiriau bwydo gan y bydd mwy o glybiau yn cystadlu am ddyrchafiad ac yn cynnig targed i chwaraewyr talentog anelu ato. Mae Uwch-gynghrair Menywod Cymru wedi bod yn gweithredu ers 2009-2010 ac mae bellach wedi datblygu i fod yn gynghrair sy’n cynnwys 10 tîm, 2 yn fwy na’r gynghrair 8 tîm a sefydlwyd yn wreiddiol.

Cer Amdani!

Os ydych chi’n chwilio am glwb, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Pêl-droed lleol i gael rhagor o gyngor a chymorth i ddod o hyd i’r lle gorau i chi. Isod, mae rhestr o gynghreiriau ledled Cymru sy’n cynnig pêl-droed i ferched.

Cynghreiriau Merched

Cynghrair Merched De Cymru

Cynghrair Menywod a Merched Gorllewin Cymru

Cynghrair Ieuenctid ac Iau Casnewydd a’r Cylch

Cynghrair Merched Gogledd Cymru

Cynghrair Merched Sir Benfro

Cynghrair Iau De Ceredigion ac Aberystwyth

Cynghrair Iau Canol a Gogledd Powys

Cynghrair Iau Colwyn ac Aberconwy

Cynghrair Ieuenctid ac Iau Wrecsam a'r Cylch

Cynghreiriau Menywod

Cynghrair Menywod De Cymru

Cynghrair Menywod a Merched Gorllewin Cymru

Cynghrair Menywod Gogledd Cymru

Cynghrair Menywod Canol a Gogledd Powys

Cynghrair Menywod Ceredigion

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx