‘Pêl-droed Hwyl’ yw’r term a roddir ar weithgaredd pêl-droed sydd wedi’i drefnu mewn ffordd anffurfiol, gyda’r pwyslais ar ‘droi fyny a chwarae’ a ‘datblygu sgiliau drwy ymarfer pêl-droed creadigol’. Caiff y term ‘pêl-droed hwyl’ neu ‘fun football’ ei gydnabod gan UEFA (Corff Llywodraethu Pêl-droed Ewrop) a chaiff ei hyrwyddo fel menter datblygu ar lawr gwlad.
Cefndir
Cafodd rhaglen nod siarter ‘pêl-droed hwyl’ ei chyflwyno i gynnig cynllun meincnodi ar gyfer awdurdodau lleol, clybiau a sefydliadau preifat i ddarparu gweithgareddau cwricwlaidd ac allgwricwlaidd o fewn ffiniau pob awdurdod lleol.
Prif nod y rhaglen yw sicrhau bod clybiau a sefydliadau preifat yn cynnig rhaglen bêl-droed gyda sicrwydd ansawdd i chwaraewyr iau.
Pam ddylai fy sefydliad i gael ei achredu?
Mae nifer o fanteision yn gysylltiedig â bod yn ddarparwr pêl-droed hwyl achrededig, gan gynnwys:
- Bydd delwedd y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cael ei wella’n sylweddol a bydd yn darparu gwell amgylchedd i chwaraewyr a hyfforddwyr.
- Bydd sefydliadau yn derbyn pecyn adnoddau i gynorthwyo gyda’r broses achredu a chyda gwaith y sefydliad o ddydd i ddydd.
- Bydd sefydliadau’n derbyn adnodd rhyngweithiol ‘Leading Football’ CBDC yn rhad ac am ddim, sy’n cynnwys dros 100 o weithgareddau ymarferol.
- Bydd sefydliadau sydd wedi’u hachredu yn gallu defnyddio’r logo nod siarter ar eu deunydd marchnata er mwyn hyrwyddo eu cynllun.