en-GBcy-GB
  |  Login

 

Pêl-droed Anabledd

 

Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle cyfartal i chwarae pêl-droed, a hynny waeth beth yw eu rhyw, hil neu allu.

O ganlyniad, mae gan yr Ymddiriedolaeth strategaeth ar gyfer Pêl-droed Anabledd (2006 – 2010) sy’n canolbwyntio’n bennaf ar bum maes allweddol:

· Cyfranogiad neu Gymryd Rhan – rhoi cyfleoedd i chwaraewyr sydd ag anabledd i gymryd rhan mewn strwythurau cystadlu a hyfforddi cyffredin. Y brif nod yw datblygu clwb pêl-droed anabledd ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru.

· Datblygu clybiau a strwythurau cystadlu – gwella safonau clybiau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes drwy gyfrwng meini prawf cymeradwy a datblygu timau a chystadlaethau newydd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

· Hyfforddwyr a gwirfoddolwyr – recriwtio a datblygu hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr i gefnogi strwythur pêl-droed anabledd yng Nghymru.

· Adnabod a chefnogi chwaraewyr talentog – gwella safon y chwarae er mwyn cefnogi llwyddiant timau anabledd cenedlaethol yn y dyfodol.

· Proffil ac ymwybyddiaeth yn y cyfryngau – cynyddu ymwybyddiaeth gadarnhaol o bêl-droed anabledd yng Nghymru.

Sefydlwyd Fforwm Anabledd Cenedlaethol i hyrwyddo a chydgysylltu pêl-droed anabledd yng Nghymru. Mae’r fforwm yn cynnwys unigolion o Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, cynllun Chwaraeon Anabledd Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ymhlith eraill.

Mae Swyddogion Datblygu Pêl-droed y Siroedd yn gweithredu’r strategaeth hon ledled Cymru mewn partneriaeth â swyddogion Chwaraeon Anabledd Cymru. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan a dechrau chwarae, mae manylion cyswllt clybiau pêl-droed anabledd ar gael drwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘chwilio am glybiau’ ar y dudalen hon. A chofiwch gadw llygad ar y wefan hon am y newyddion diweddaraf, ac i ddysgu am gyfleoedd newydd a’r digwyddiadau sydd ar y gorwel.

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx