en-GBcy-GB
  |  Login

 

Gwobr Sgiliau CBDC

Rhaglen hyfforddi ac asesu yw Gwobr Sgiliau CBDC ar gyfer pob chwaraewr ifanc sy’n dysgu sgiliau a thechnegau pêl-droed sylfaenol.

Drwy gyfrwng system bwyntiau’r rhaglen, mae Gwobr Sgiliau CBDC yn cynnig amgylchedd hwyliog a heriol i chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau, gan wobrwyo datblygiad a gwelliant.

Dyluniwyd yr ymarferion sy’n rhan o Wobr Sgiliau CBDC i gysylltu â chyfnodau allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Sut mae Gwobr Sgiliau CBDC yn gweithio?

Mae Gwobr Sgiliau CBDC yn cynnwys tair lefel wahanol, ac mae’r sgiliau a’r technegau’n mynd yn anoddach wrth symud o un lefel i’r llall.

Mae’r tair lefel yn cynnwys y sgiliau canlynol:

Lefel 1

Rheoli, Pasio a Rhedeg gyda’r Bêl.

Lefel 2

Penio, Rheoli, Pasio, Rhedeg gyda’r Bêl, Driblo ac Ergydio.

Lefel 3

Penio, Rheoli, Pasio, Rhedeg gyda’r Bêl, Driblo ac Ergydio.

Mae’r ymarferion yn llunio rhaglen ddysgu ar bob lefel, sydd wedi’i datblygu yn arbennig i brofi’r sgiliau a restrir uchod. Mae pob ymarfer yn cael ei sgorio gyda chyfanswm o 40 o bwyntiau ar gael ar bob un o’r tair lefel.

Sut caiff sgiliau chwaraewyr eu hasesu?

Mae chwaraewyr yn cofnodi eu sgoriau unigol ar gyfer pob ymarfer ar y taflenni sgorio a ddarperir gyda’r cardiau gweithgareddau. Drwy adio eu sgoriau unigol at ei gilydd i gael eu cyfanswm, mae’r sgôr hon yn pennu pa lefel maent yn ei chyrraedd – Efydd, Arian neu Aur.

 

Lefel 1

Lefel 2

Lefel 3

Aur

32-40 o bwyntiau

20-24 o bwyntiau

20-24 o bwyntiau

Arian

20-31 o bwyntiau

14-19 o bwyntiau

14-19 o bwyntiau

Efydd

10-19 o bwyntiau

8-13 o bwyntiau

8-13 o bwyntiau

 

Gallwch lawrlwytho’r cardiau gweithgareddau a’r tudalennau sgorio unigol isod:

Lefel 1

Lefel 2

Lefel 3

At hynny, gallwch lawrlwytho Tystysgrifau Gwobr Sgiliau CBDC i’w rhoi i chwaraewyr ar ôl iddynt gwblhau pob lefel:

Tystysgrif Efydd

Tystysgrif Arian

Tystysgrif Aur

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx