en-GBcy-GB

 

Cynllun Achredu Clybiau CBDC /McDonald’s

Minimize
 

Mae Cynllun Achredu Clybiau (Club Accreditation Scheme) CBDC / McDonald’s yn helpu clybiau i sicrhau bod bechgyn a merched yn cymryd rhan mewn pêl-droed yn rheolaidd drwy gynnal rhaglen bêl-droed o ansawdd.

Mae’r cynllun yn cynnwys pedair lefel achredu gan ddechrau gyda’r lefel safonol sy’n orfodol i bob clwb sy’n chwarae pêl-droed iau. Yna, gall clybiau weithio tuag at lefelau efydd, arian ac aur.

Mae’r Cynllun Achredu yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn::

  • Cyfansoddiad â chysylltiad
  • Lles chwaraewyr a chyfle cyfartal
  • Addysg hyfforddwyr
  • Offer a chyfleusterau
  • Recriwtio a datblygu chwaraewyr a gwirfoddolwyr
  • Adnabod a chefnogi chwaraewyr talentog

Drwy gymryd rhan yn y cynllun, byddwch yn elwa ar y manteision canlynol:p>

  • Gwella delwedd eich clwb
  • Defnydd o logo nod siarter
  • Gostyngiad ar offer a chit penodol gan Mitre
  • System talebion wrth brynu citiau ar gyfer clybiau ar lefelau efydd, arian ac aur
  • Cefnogaeth barhaus gan swyddog datblygu pêl-droed proffesiynol
  • Adnoddau i helpu trefniadaeth y clwb

Er mwyn cofrestru’ch clwb i fod yn rhan o’r cynllun, ewch ati i lenwi’r ffurflen gofrestru safonol ar gyfer clybiau sy’n cael ei dosbarthu gan ysgrifenyddion iau cyn pob tymor newydd. Bydd angen dychwelyd y ffurflen at ysgrifennydd y gynghrair erbyn y dyddiad cau a nodir.

Dylai clybiau sy’n dymuno gweithio tuag at achrediad efydd, arian neu aur drafod y camau nesaf o ran gweithio tuag at yr achrediad gyda’u swyddog datblygu pêl-droed lleol.

Mae Pecyn Adnoddau ar-lein sy’n mynd law yn llaw â’r Cynllun Achredu ar gael yn yr adran hon o’r wefan, sef adran ‘Pêl-droed llawr Gwlad’.

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx