en-GBcy-GB
You are here:   Home (cy-GB) > Pêl-droed Llawr Gwlad
  |  Login

 

Pêl-droed Llawr Gwlad

Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn cynnal amrywiaeth helaeth o raglenni i ddatblygu pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys pêl-droed mini a phêl-droed ar gyfer gwahanol grwpiau gan gynnwys gwahanol oedrannau, rywiau, grwpiau anabledd a lleiafrifoedd ethnig. Rydym hefyd yn anelu at ddatblygu cyfleoedd ar bob lefel, o “bêl-droed hwyl” hyd at safon iau ryngwladol.

Rydym yn mynd ati i wneud hyn drwy feithrin perthynas â chlybiau, ysgolion a sefydliadau masnachol, drwy gynnal gwyliau (festivals), llunio cynghreiriau a chynnig hyfforddiant i ddatblygu sgiliau. Ac wrth wneud hyn oll, rydym yn anelu at ddatblygu hyfforddwyr a threfnwyr yn ogystal â chwaraewyr.

Mae rhagor o wybodaeth am y wahanol elfennau yr ydym yn eu cynnig ar gael yn adran ‘Llawr Gwlad’ y wefan. Ond os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01443 844113 neu anfon e-bost atom.

Mae ein manylion cyswllt llawn i’w gweld yma.

Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o fod wedi helpu Cymru i ennill pum seren UEFA ar ôl ymrwymo i gydymffurfio ag egwyddorion allweddol Siarter Llawr Gwlad UEFA.

 


Cynllun Achredu Clybiau CBDC /McDonald’s Cynllun Achredu Clybiau CBDC /McDonald’s
Bydd yr adran hon yn egluro mwy am Gynllun Achredu Clybiau CBDC/McDonald’s a gafodd ei lansio ddechrau tymor 2007/2008 i wella safonau pêl-droed iau yng Nghymru ar bob lefel. read more ...

Pêl-droed MiniPêl-droed Mini
Fersiwn o bêl-droed sydd wedi'i hardystio gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ar gyfer plant o oedran cynradd (Dan 11) yw Pêl-droed Mini. Nod Pêl-droed Mini yw darparu amgylchedd diogel, wedi'i oruchwylio er mwyn cyflwyno plant i'r gêm mewn ffordd y gallant ei mwynhau. read more ...

Pêl-droed HwylPêl-droed Hwyl
Cafodd rhaglen nod siarter 'pêl-droed hwyl' ei chyflwyno i gynnig cynllun meincnodi ar gyfer awdurdodau lleol, clybiau a sefydliadau preifat i ddarparu gweithgareddau cwricwlaidd ac allgwricwlaidd mewn ysgolion a chyfleusterau chwaraeon ledled Cymru. read more ...

Pêl-droed Menywod a Merched Pêl-droed Menywod a Merched
Mae poblogrwydd pêl-droed merched yn ei anterth ledled y byd, ac nid yw Cymru’n eithriad. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y merched sy'n chwarae pêl-droed. Mae oddeutu 4,000 o chwaraewyr benywaidd wedi cofrestru i chwarae o fewn strwythurau’r wyth gynghrair iau a’r pum cynghrair uwch ledled Cymru. read more ...

Disability FootballDisability Football
The Welsh Football Trust has had a Disability Football Programme since January 2004. As part of the programme the Trust supports the development of disability specific playing opportunities in both schools and clubs. In addition we deliver a coach education programme specifically for disability football to assist coaches when working with young players. read more ...

Football Inclusion (BME)Football Inclusion (BME)
The Trust’s football inclusion officer Hafizur (Mizan) Rahman dedicates his time to developing new and existing opportunities in football for people from a Black and Minority Ethnic background throughout Swansea, Cardiff and Newport. read more ...

Pêl-droed FutsalPêl-droed Futsal
Futsal yw'r unig fersiwn o bêl-droed pum bob ochr a gaiff ei chydnabod gan UEFA a FIFA. read more ...

FAW Skills AwardFAW Skills Award
The FAW Skills Award is a coaching and assessment programme for all young players learning the basic skills and techniques of football. The idea of the programme is to promote technique and skill development through fun activities. read more ...

Schools' FootballSchools' Football
The Trust works in partnership with the Welsh Schools Football Association, the governing body for schools' football. read more ...

The UEFA Training GroundThe UEFA Training Ground
The UEFA Training Ground is an excellent resource for all grassroots coaches and players providing up to date information on the latest practices from across Europe. A number of on line learning courses are available through the website. read more ...

 

 Supported By Sponsors 
 
        UEFA Tactx