Mae hyfforddwyr da yn rhan hanfodol o’r broses o ddatblygu pêl-droed yng Nghymru. Maent yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar chwaraewyr ar bob lefel ac yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ddatblygu ein chwaraewyr ifanc.
P’un a ydych chi am hyfforddi mewn clwb proffesiynol ar y brig neu ar lefel lawr gwlad ar foreau dydd Sul, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn cynnig cyrsiau ar bob lefel drwy gyfrwng ein Rhaglen Addysgu Hyfforddwyr gynhwysfawr.
Drwy gyfrwng ein rhaglenni, rydym ni’n datblygu hyfforddwyr drwy gyrsiau technegol, tactegol a meddygol. Caiff pob cwrs ei ddarparu gan staff cymwysedig sydd wedi’u hachredu’n llawn. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth drylwyr a phroffesiynol drwy gydol yr hyfforddiant.
Mae ein rhaglenni mor llwyddiannus, maent yn denu pobl o du hwnt i Gymru, gan gynnwys rheolwyr clybiau yn Uwch-gynghrair Lloegr.
Sut i ymuno â chwrs hyfforddi
Y cam cyntaf yw cofrestru ar gyfer Gwobr Sylfaenol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (gweler Llwybr Addysg CBDC ar gyfer Hyfforddwyr). Drwy ddringo’r ysgol hyfforddi, mae cyfle i ymgeiswyr ddatblygu o un cymhwyster hyfforddi priodol i’r llall a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth hyfforddi.
Caiff pob cwrs ei gynnal mewn modd agored a chyfeillgar gyda phwyslais ar rannu profiadau a safbwyntiau. Dylai ymgeiswyr sy’n ymuno â’r cyrsiau hyn agor eu meddyliau i syniadau newydd a bod yn agored i rannu eu barn a’u safbwynt ar bynciau a drafodir drwy gydol y cyrsiau.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddysgu mwy am hyfforddi yng Nghymru: www.coachingwales.com