Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru (YBDC) yn gyfrifol am ddarganfod a datblygu talent ifanc er mwyn cefnogi llwyddiant timau cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Ein hamcanion canolog yw gweithio gyda phartneriaid allweddol i wella Llwybrau Chwaraewyr, a hynny er mwyn sicrhau bod chwaraewyr talentog yn cyrraedd eu llawn botensial ac i baratoi chwaraewyr ifanc elît ar gyfer hyfforddiant rhyngwladol.
Mae’r Fforwm Datblygu Chwaraewyr Cenedlaethol yn cynnwys ein partneriaid – Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru (WSFA), Academïau Uwch-gynghrair Cymru a’r tri chlwb proffesiynol yng Nghymru – ac mae cynrychiolwyr o bob sefydliad yn trafod ac yn cynllunio gofynion chwaraewyr ar lefel ranbarthol ac ar lefel genedlaethol. Mae’r fforwm yn mynd ati bob blwyddyn i gyhoeddi Calendr o Gemau Cenedlaethol.
Caiff y polisi datblygu chwaraewyr ei ddatblygu gan Bwyllgor Technegol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, sy’n pasio argymhellion i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i’w hystyried.
Mae carfannau datblygu rhanbarthol wedi’u sefydlu yng Ngogledd Cymru a De Cymru ar gyfer bechgyn a merched rhwng 13 ac 14 oed. Caiff chwaraewyr eu henwebu ar gyfer y carfannau hyn o garfannau sirol WSFA, Academïau Uwch-gynghrair Cymru a chlybiau proffesiynol yng Nghymru a Lloegr.
Mae cysylltiadau wedi’u datblygu gyda charfannau cenedlaethol canolradd (intermediate) CBDC (merched a dynion) er mwyn sicrhau proses bontio lyfn o’r lefel Dan 16 hyd at y Garfan ‘A’ Genedlaethol. Mae Joe Ledley, Lewin Nyatanga ac Aaron Ramsey wedi bod drwy’r system hon.
Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn awyddus i wybod am fechgyn a merched Cymreig sy’n mynychu Canolfannau Rhagoriaeth ac academïau y tu allan i Gymru. Dylai rhieni a gwarcheidwaid ddarllen y meini prawf i weld a yw eu plentyn yn gymwys cyn cysylltu â ni.
Pwy sy’n gymwys i chwarae i Gymru?
Mae’n rhaid i chwaraewr fodloni o leiaf un o’r meini prawf hyn:
· chwaraewr wedi’i eni yng Nghymru;
· un o rieni’r chwaraewr wedi’i eni yng Nghymru;
· nain/taid neu fam-gu/tad-cu’r chwaraewr wedi’i eni yng Nghymru.
Gwobr Sgiliau CBDC